#

Y Pwyllgor Deisebau | 27 Tachwedd 2018
 Petitions Committee | 27 November 2018
 
 
 ,Deiseb: Amddiffyn Gwastatir Gwent ac atal traffordd arfaethedig yr M4
 
  

 

 

 

 


Papur briffio gan y Gwasanaeth Ymchwil:

Rhif y ddeiseb: P-05-850

Teitl y ddeiseb: Amddiffyn Gwastatir Gwent ac atal traffordd arfaethedig yr M4

Geiriad y ddeiseb:

Rhowch y gorau i’r cynlluniau i adeiladu traffordd yr M4 ar draws harddwch Gwastatir Gwent a buddsoddwch mewn trafnidiaeth gyhoeddus yn lle hynny. 

Pam mae hyn yn bwysig?

Bydd y cynlluniau presennol i ymestyn traffordd yr M4 yn peryglu dyfrgwn, gwenyn prin a blodau gwyllt.  Byddai’n torri ar draws fersiwn Cymru o 'Goedwig Law Amazon', Gwastatir Gwent, sy’n hafan i fywyd gwyllt.  Mae angen gwella’r traffig o amgylch Casnewydd, ond byddai’n well i Gymru a’r amgylchedd pe bai Llywodraeth Cymru yn buddsoddi mewn trafnidiaeth gyhoeddus yn lle hynny.  Os ydym eisiau gwarchod yr amgylchedd ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol, mae angen i ni feddwl am opsiynau amgen yn lle traffyrdd llygredig mawr.  Mae rheolydd a chyrff cynghori y Cynulliad ei hun, Cyfoeth Naturiol Cymru, yn gwrthwynebu’r cynlluniau hyn. 

 

Llywodraeth Cymru yw'r awdurdod priffyrdd ar gyfer rhwydwaith cefnffyrdd a thraffyrdd Cymru ac mae'n gyfrifol am gynnal a chadw a gwella'r rhwydwaith, gan gynnwys yr M4. Trafodwyd cynigion i gynyddu lle ar yr M4 o amgylch Casnewydd ers dechrau'r 1990au pan nododd Llywodraeth y DU lwybr a ffefrir, yn gyffredinol debyg i'r cynigion presennol. Er y barnwyd ei fod yn anfforddiadwy yn 2009, adfywiwyd y prosiect gan gytundeb yn 2013 rhwng Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU ar bwerau benthyg.

 

 

Cynllun coridor yr M4 o amgylch Casnewydd

Yn 2014, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru Coridor yr M4 o Amgylch Casnewydd – Y Cynllun gan nodi ei llwybr a ffefrir. Yn y ddogfen hon, nododd Llywodraeth Cymru gynlluniau i adeiladu rhan newydd o'r draffordd, sef y 'llwybr du' neu'r 'llwybr a ffefrir'.

Yn ogystal â chreu rhan newydd o'r draffordd – y 'llwybr du' – cynigiodd Llywodraeth Cymru ystod o fesurau ategol, gan gynnwys:

§    Ailddosbarthu'r M4 bresennol rhwng Magwyr a Chas-bach;

§    Cysylltiadau'r M4/M48/B4245; a

§    Darparu seilwaith addas ar gyfer beicio a cherdded.

Mae Llywodraeth Cymru o'r farn mai ei chynigion o ran y 'llwybr du' a'r mesurau ategol:

yw'r ateb cynaliadwy, hirdymor i’r problemau cymdeithasol, amgylcheddol ac economaidd presennol sy’n gysylltiedig â’r ffordd hon [a rhan hanfodol o’i] gweledigaeth am system drafnidiaeth integredig effeithiol yn Ne Cymru [yn ogystal â phrosiectau eraill megis Metro De Cymru].

Ym mis Mawrth 2015 roedd Cyfeillion y Ddaear yn aflwyddiannus pan wnaethant herio cynigion Llywodraeth Cymru.

Gwastatir Gwent

Byddai'r llwybr a ffefrir gan Lywodraeth Cymru, sef y 'llwybr du', yn croesi ardal a elwir yn Wastatir Gwent mewn sawl man. Gwastatir Gwent yw'r enw ar y cyd a roddir i nifer o wahanol Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA) a leolir i'r de o Gasnewydd ac i'r gogledd i Aber Afon Hafren.

Ym mis Mawrth 2016, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru Ddatganiad Amgylcheddol yn nodi ei asesiad o'r prif effeithiau amgylcheddol a ddeuai yn sgil yr opsiwn a ffefrir, a sut y byddai'r rhain yn cael eu lliniaru. Cyhoeddwyd crynodeb annhechnegol (PDF 1.51MB) hefyd sy'n nodi bod Gwastatir Gwent:

...yn cynnwys corsydd arfordirol wedi’u hadfer gwastad ar dir isel sy’n ymestyn hyd at Aber Afon Hafren. Mae Gwastadeddau Gwent wedi’u dynodi oherwydd eu tirwedd hanesyddol a’u diddordeb ecolegol.  Ar draws Gwastadeddau Gwent ceir rhwydwaith helaeth o ddraeniau dŵr croyw â lociau llanw, a elwir yn “reens” yn lleol, a ffosydd llai o faint... Y nodweddion ecolegol hyn yw’r rheswm pam mae Gwastadeddau Gwent wedi’u dynodi’n SoDdGAau.  Mae Llywodraeth Cymru, yn unol â’i dyletswyddau o dan ddeddfwriaeth amgylcheddol, wedi gwneud ei gorau i gadw a gwella nodweddion y SoDdGAau yn ystod y broses o ddylunio’r Cynllun.

Y prosiect hyd yn hyn

Yn ogystal â'r Datganiad Amgylcheddol, cyhoeddwyd nifer sylweddol o ddogfennau eraill ym mis Mawrth 2016, gan nodi cam allweddol yn y broses o gynllunio a chyflawni'r prosiect. Hefyd, cafodd 10 o arddangosfeydd cyhoeddus eu cyhoeddi, a oedd yn gyfle i aelodau o'r cyhoedd weld y gorchmynion drafft, gwybodaeth amgylcheddol ac adroddiadau a deunyddiau cysylltiedig eraill. Mae erthygl flaenorol gan y Gwasanaeth Ymchwil yn cynnwys rhagor o wybodaeth am yr adroddiadau hyn.

Yn dilyn yr arddangosfeydd cyhoeddus, ym mis Mehefin 2016, dyma a ddywedodd Ken Skates, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith ar y pryd, yn y Cyfarfod Llawn:

Mae'r holl ymatebion wedi eu hadolygu’n ofalus. Mae'n rhaid imi ystyried materion pwysig yn ofalus cyn gwneud penderfyniad terfynol ynghylch a ddylid bwrw ymlaen â'r gwaith adeiladu...Rwyf felly wedi penderfynu y dylid cynnal ymchwiliad lleol cyhoeddus. [pwyslais y Gwasanaeth Ymchwil]. Bydd arolygydd annibynnol yn adolygu'r angen am y cynllun ac yn ystyried yr holl ffactorau amgylcheddol, cymdeithasol ac economaidd. Bydd yn clywed tystiolaeth ac yn archwilio'r arbenigwyr technegol yn ogystal â chlywed gan gefnogwyr a gwrthwynebwyr...fel sail i benderfyniad terfynol ynghylch pa un a ddylid bwrw ymlaen i adeiladu.

Ymchwiliad lleol cyhoeddus

Y bwriad oedd i'r ymchwiliad lleol cyhoeddus ddechrau yn nhymor yr Hydref 2016 a chan ddisgwyl yr ymchwiliad hwnnw, nododd Llywodraeth Cymru ei datganiad achos ym mis Awst 2016. Mae Rhan 1 (PDF 2.23MB) o'i hachos yn nodi trosolwg a chyfiawnhad o'r cynllun. Mae Rhannau 2 a 3 (PDF 2MB) yn nodi crynodeb o'r gwrthwynebiadau a gafwyd ac amlinelliad o ymateb Llywodraeth Cymru.

Ym mis Hydref 2016, cyhoeddodd Ysgrifennydd y Cabinet fod yr ymchwiliad wedi'i ohirio oherwydd yr angen i gwblhau'r gwaith modelu a rhagamcanu traffig diwygiedig. Rhoddwyd diweddariad pellach ym mis Rhagfyr 2016, lle dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet ei fod wedi 'edrych o'r newydd' ar y cynigion. Gwnaed hynny yn sgil y data twf traffig diwygiedig a chynigion diweddaraf Llywodraeth Cymru ar gyfer Metro De Cymru, ynghyd â dyletswyddau sy'n ofynnol o dan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015. Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet ei fod hefyd wedi edrych o'r newydd ar lwybrau amgen gan gynnwys y llwybr glas y bu cymaint o sôn amdano (ceir rhagor o wybodaeth yn nes ymlaen yn y papur briffio hwn) ond roedd yn credu mai prosiect yr M4 yw’r ateb cynaliadwy tymor hir o hyd.

Dechreuodd yr ymchwiliad ar 28 Chwefror 2017 gydag archwilydd annibynnol wedi'i benodi i ystyried y dystiolaeth mewn ffordd dryloyw, deg a diduedd. Yn ei sylwadau agoriadol (PDF 205KB) i'r ymchwiliad, tynnodd yr arolygydd sylw at y nifer helaeth o ddarnau o ohebiaeth a oedd wedi dod i law yn mynegi naill ai gefnogaeth ar gyfer y 'llwybr du' neu wrthwynebiad iddo. Daeth yr ymchwiliad i ben ym mis Ebrill 2018, ac mae’r holl ddogfennau a gwybodaeth gysylltiedig ar gael ar-lein.

Mae'r ymchwiliad bellach wedi dod i ben a chyflwynwyd adroddiad i Weinidogion Cymru ar ganfyddiadau ac argymhellion yr archwilydd, sy'n cael ei ystyried ar hyn o bryd.

Opsiynau amgen

Cynigiwyd nifer o ddewisiadau amgen o'r blaen yn lle opsiwn y 'llwybr du' a ffefrir gan Lywodraeth Cymru wrth ddatblygu cynlluniau ar gyfer coridor yr M4 o gwmpas Casnewydd.  Ymgynghorodd Llywodraeth Cymru ar gynllun drafft ddiwedd 2013 a oedd yn ystyried dau 'ddewis amgen rhesymol', sef y 'llwybr coch' (ffordd ddeuol i'r de o Gasnewydd) a 'llwybr porffor' (traffordd ar hyd llwybr amgen i'r de o Gasnewydd'.

Ym mis Gorffennaf 2014, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru werthusiad o ddewisiadau amgen a ystyriwyd yn ystod y broses ymgynghori (PDF 2.39MB). Roedd hyn hefyd yn ystyried 'llwybr glas' amgen a fyddai'n defnyddio cyfuniad o ffordd ddosbarthu ddeheuol Casnewydd yr A48 a hen ffordd y gwaith dur ar ochr ddwyreiniol Casnewydd i greu ffordd ddeuol newydd.

Cynigiwyd y 'llwybr glas' gan y Sefydliad Materion Cymreiga'r Athro Stuart Cole mewn Adroddiad ar y Llwybr Glas (PDF 814KB) a gyhoeddwyd ym mis Rhagfyr 2013. Mae cefnogwyr yn dadlau y byddai hyn yn rhatach ac yn gyflymach i'w adeiladu na'r ffordd liniaru.

Fodd bynnag, roedd arfarniad Llywodraeth Cymru yn 2014 yn awgrymu na fyddai'r 'llwybr glas' yn cyflawni amcanion y cynllun, a byddai angen buddsoddiad sylweddol ac ni fyddai'n sicrhau manteision digonol.

Cyhoeddwyd 'Arfarniad o Gynigion Llwybr Glas Arall y Gwrthwynebwyr' gan Lywodraeth Cymru ym mis Rhagfyr 2016, yn sgil y gwaith modelu traffig diwygiedig a oedd yn ofynnol fel yr amlinellwyd yn gynharach yn y papur briffio hwn. Daeth yr arfarniad hwn i'r casgliad a ganlyn:

The Blue Route would not address the identified transport related problems as well as the M4 Corridor around Newport Scheme… the Welsh Government is not promoting the Blue Route, which has been suggested by objectors. However, the Blue Route and the findings of this appraisal will be considered as part of the Public Local Inquiry into the Welsh Government’s proposed M4 Corridor around Newport Scheme.

Roedd datganiad agoriadol (PDF, 356KB) Llywodraeth Cymru i'r ymchwiliad lleol cyhoeddus yn nodi bod Llywodraeth Cymru wedi cael manylion am 22 o lwybrau amgen gan wrthwynebwyr i'r opsiwn a ffefrir yn ystod yr ymgynghoriad cyhoeddus. Trefnwyd i'r manylion am ddewisiadau amgen y 22 o wrthwynebwyr hyn (PDF, 136KB) fod ar gael fel rhan o'r ymchwiliad. Ym mis Mawrth 2017, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru 'Adroddiad ar y Dewisiadau Amgen a Awgrymwyd gan Wrthwynebwyr' (PDF, 56.1MB) a oedd yn ystyried pob un o'r dewisiadau amgen hyn. Roedd yn rhaid i Lywodraeth Cymru wneud hyn a chyflwyno'r adroddiad i'r archwilydd fel rhan o'r ymchwiliad.  Mae'r adroddiad hwn yn cynnwys dadansoddiad o'r effaith y byddai pob dewis amgen yn ei chael ar Wastatir Gwent.

Ym mis Medi 2018, cyhoeddodd Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol Cymru adroddiad o'r enw ‘Trafnidiaeth sy’n Gymwys ar gyfer Cenedlaethau’r Dyfodol' gan gynnig dewis amgen i 'ddatrys tagfeydd o gwmpas Casnewydd' drwy fuddsoddi'r:

£1.4 biliwn a glustnodwyd ar hyn o bryd ar gyfer Llwybr Du yr M4...mewn trafnidiaeth gyhoeddus, teithio llesol a sicrhau cyflawni pob cam o Fetro De Cymru.

Cyhoeddodd y deisebydd – CALM (Campaign Against the Levels Motorway) ddatganiad i'r wasg ym mis Medi 2018 o blaid (PDF 280KB) y cynigion amgen a nodwyd yn adroddiad Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol.

Camau gweithredu Llywodraeth Cymru

Cyhoeddodd Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth ddatganiad ysgrifenedig ym mis Ebrill 2018 i gyhoeddi bod yr ymchwiliad lleol cyhoeddus wedi dod i ben. Roedd y datganiad hefyd yn ymrwymo:

i ddadl o fewn amser y Llywodraeth yn y Senedd cyn bod Gweinidogion Cymru yn cytuno ar gontractau adeiladu.

Ar 16 Hydref 2018, gofynnwyd i Julie James, Arweinydd y Tŷ a'r Prif Chwip, am yr amserlen o ran gwneud penderfyniad ar y cynllun. Dywedodd :

...mae'r amserlen bresennol ar gyfer materion y Llywodraeth yn dangos bod dadl wedi'i threfnu ar gyfer yr wythnos sy'n dechrau ar 4 Rhagfyr [2018].

Ar 23 Hydref 2018, gofynnwyd i Arweinydd y Tŷ unwaith eto am y ddadl ac a fydd yn bleidlais rwymol ar Lywodraeth Cymru. Wrth ateb, dywedodd Arweinydd y Tŷ:

bydd y ddadl a'r bleidlais yn cael eu cymryd i ystyriaeth mewn penderfyniadau buddsoddi terfynol...bydd yn amser y Llywodraeth.  Felly, mae'n bleidlais rwymol yn amser y Llywodraeth ar y Llywodraeth...Ac addawyd y bleidlais honno gennym—addewais i y byddem ni'n cael y bleidlais honno...yn y Cynulliad.  Ac felly, byddwn yn gwneud hynny.

Mae’r llythyr oddi wrth Ysgrifennydd y Cabinet at Gadeirydd y Pwyllgor Deisebau yn ategu hyn, gan ddweud mai canfyddiadau’r ymgynghoriad cyhoeddus:

…yn ogystal â’r ddadl a’r bleidlais yr ymrwymwyd i’w cynnal yn y Senedd, fydd yn llywio’r penderfyniad terfynol ar fwrw ymlaen â’r prosiect ai peidio.

 

Camau gweithredu Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Cynhaliwyd nifer o ddadleuon ynghylch coridor yr M4 o amgylch Casnewydd yn y Cyfarfod Llawn. Cynhaliwyd y ddadl ddiweddaraf ym mis Chwefror 2018 pan gyflwynodd Plaid Cymru ddadl ar ffordd liniaru arfaethedig yr M4.

Ym mis Mehefin 2016, gwnaeth Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth ddatganiad yn y Cyfarfod Llawn i gyhoeddi y câi'r ymchwiliad lleol cyhoeddus ei gynnal mewn perthynas â'r cynllun. Codwyd materion yn ymwneud â'r effeithiau amgylcheddol a dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet bod Llywodraeth Cymru wedi:

nodi £45 miliwn o fewn y prosiect, a gaiff ei wario ar fesurau amgylcheddol, nid yn unig i liniaru effaith y llwybr du arfaethedig, ond, yn wir, i wella'r amgylchedd.

Mae nifer o bwyllgorau'r Cynulliad hefyd wedi trafod ffordd liniaru'r M4.

Holodd y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth ynglŷn â'r cynllun yn ystod sesiwn graffu a gynhaliwyd ym mis Ionawr 2018. Canolbwyntiodd y Pwyllgor ar yr effeithiau amgylcheddol a gâi'r llwybr arfaethedig a gofynnwyd i Ysgrifennydd y Cabinet amlinellu'r mesurau lliniaru arfaethedig. Dywedodd Ysgrifennydd Cabinet:

there are major, major initiatives that'll be taking place, indeed taking place before the road is open for use, that will improve the natural environment—for example, the reed beds, the lagoons that are going to be created, the planting of new hedgerows, new woodland…fifty per cent of the road is being constructed on brownfield sites—2 per cent, yes, on the Gwent Levels. There has to be that balance between social, environmental and economic interests. We're trying to achieve that balance as much as possible.

Trafodwyd y cynllun hefyd ym mis Mehefin 2018 a mis Gorffennaf 2018gan Bwyllgor Economi, Seilwaith a Sgiliau y Cynulliad fel rhan o'i ymchwiliad i gyflwr y ffyrdd yng Nghymru.